Cwestiynau Mynych |
||||
|
Gwelliannau i wasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau – 16 Mehefin 2008 Cafodd sgrin Prif Ddewislen WebFiling ei hailddylunio i wella’r broses chwilio i gwsmeriaid presennol. Bydd y broses chwilio ffurflenni fel y cafodd ei mireinio yn eich galluogi i gael hyd i dair ffurflen drwy gyfrwng y tri thab dethol canlynol: Categori – Cael hyd i fathau arbennig o ffurflen yn ôl categori Enwau Ffurflenni – Cael hyd i enw ffurflen yn nhrefn yr wyddor Rhifau Ffurflenni - Cael hyd i enw ffurflen mewn trefn rifiadol
Bydd ospiwn newydd ‘Ffurflenni Poblogaidd’ ar ochr dde’r sgrin yn caniatáu ichi ddod o hyd yn gyflym i’r 5 ffurflen fwyaf poblogaidd a gafodd eu ffeilio. Opsiwn Tasgau Eraill – yn dangos:
Mae’r opsiynau canlynol sy’n cyfeirio atoch chi fel cyflwynydd gwybodaeth wedi cael eu symud i frig y sgrin: Manylion fy Nghyfrif Gweld Data wedi’u Cyflwyno Gall y dogfennau gael eu lawrlwytho’n rhwydd drwy glicio’r ddolen PDF berthnasol a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin Dim ond am 10 diwrnod ar ôl y cyflwyno gwreiddiol y bydd y dogfennau hyn ar gael.
Gellir cyrchu sgriniau WebFiling yn Gymraeg ac yn Saesneg Gall pob sgrin newid rhwng y ddwy iaith, ar wahân i sgriniau’r ffurflenni gwirioneddol eu hunain; cânt eu dangos yn yr iaith oedd yn cael ei defnyddio adeg dethol. Nodyn: dim ond yn Saesneg y mae’r patrymau cyfrifon PDF ar gael. Cynhelir pob gohebiaeth yn yr iaith oedd yn cael ei defnyddio ar y pryd. Dim ond cwmnïau Cymreig cymwys ddylai gyflwyno ffurflenni CYM (rhagor o fanylion o dan HELP WebFiling) ![]() |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|