Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Tŷ’r Cwmnïau yn Cyflwyno Gwasanaeth Gwrth-Gipio |
|||
|
Gwasanaeth PROtected Online Filing (PROOF) Cefndir Mae cynllun PROOF ar droed ers 2005 ac yn y dechrau dim ond drwy gyflwyno ffurflen bapur (PR1) y câi cwsmeriaid ymuno. Ym Mehefin eleni, gweithredodd Tŷ’r Cwmnïau gyfleustra dewis-ymuno electronig a ganiatâi i gwsmeriaid oedd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth WebFiling drefnu i’w cwmnïau adael ac ymuno â PROOF ar-lein drwy ddefnyddio’u cod dilysu cwmni. Deddf Cwmnïau 2006 – Newidiadau i Gynllun PROOF (PROtected Online Filing) Yn sgil cyflwyno Deddf Cwmnïau 2006 a newidiadau radical i’r gyfraith gwmnïau, mae i gynllun PROOF bellach amodau a thelerau newydd sy’n gweithredu o fewn fframwaith statudol Deddf Cwmnïau 2006 (adran 1070). D.S. Bydd angen i gwmnïau sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun PROOF drosglwyddo i’r cynllun newydd oherwydd yn y pen draw tynnir yr hen gynlluniau yn ôl. Er mwyn trosglwyddo, rhaid i gwsmeriaid clicio blwch i gytuno â’r amodau a thelerau newydd sy’n arddangos ar sgriniau WebFiling. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynghori cwsmeriaid nad ydynt eisoes wedi cofrestru ar gyfer PROOF i ymuno â’r gwasanaeth o dan drefn WebFiling er mwyn diogelu’u cwmnïau rhag ffeilio twyllodrus. I ymuno â PROOF, ni raid ond cofrestru ar gyfer gwasanaeth WebFiling, cytuno â’r amodau a’r telerau a dethol ‘ymuno â PROOF’. Mae’n gwasanaeth cofrestru ar-lein yn caniatáu ichi gyflwyno gwybodaeth gwmni’n fwy diogel a chofrestru ar gyfer cynllun PROOF. |
|||