Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Tŷ’r Cwmnïau yn Cyflwyno Gwasanaeth Gwrth-Gipio

Cwsmeriaid Presennol PROOF

Caiff y sgrin ganlynol ei dangos yn achos cwsmeriaid presennol PROOF.

  • Sgrin 1 ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru am PROOF ar bapur
  • Sgrin 2 ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru am PROOF electronig drwy’r gwasanaeth WebFiling

O Hydref 1af bydd Cynllun PROOF (PROtected On-line Filing) y Cofrestrydd yn gweithredu o dan fframwaith y Ddeddf.

I ymuno â’r cynllun statudol newydd, PROOF, bydd rhaid i chi yn gyntaf gofrestru ar gyfer y gwasanaeth WebFiling. Unwaith y byddwch wedi cofrestru a chwblhau’r broses mewn-lofnodi, bydd y sgrin ganlynol (1) yn ymddangos. Ticiwch y blwch i gadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â’r  amodau a thelerau a dewiswch ‘Ymuno â PROOF’.

Sgrin 1

Existing Stat PROOF customers - screen 1

Sgrin 2

Existing Stat PROOF customers - screen 2

Sgrin 3

Bydd y sgrin ganlynol (3) yn cadarnhau bod eich cais am ymuno â’r cynllun PROOF newydd wedi dod i law ac yn dangos dyddiad digwyddiad, math a rhif cyflwyniad i gyd-fynd â’ch cais.

I barhau â’ch cais, dewiswch y botwm ‘parhau’.  Bydd hynny’n cynhyrchu dwy neges e-bost, y gyntaf (e-bost 1) yn cydnabod bod eich cais wedi dod i law, a’r ail (e-bost 2) yn cadarnhau bod y cais wedi’i dderbyn neu wedi’i wrthod.

Existing Stat PROOF customers - screen 3

E-bost 1

Mae’r neges e-bost (1) ganlynol yn cael ei chynhyrchu i gardarnhau bod eich cais wedi dod i law, a chaiff neges e-bost (2) arall ei hanfon pan fydd y cais wedi’i dderbyn neu wedi’i wrthod.

Crewyd y neges hon mewn ymateb i'r manylion cwmni a gyflwynwyd i wasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau ar <dd/mm/bbbb>.

Rhif Cwmni: <01234567>
Enw Cwmni: <A Demo Company Ltd.>

Cewch e-bost o fewn y 2 diwrnod nesaf i gadarnhau a gafodd y ddogfen ei derbyn neu ei gwrthod. Dim ond wrth iddynt gael eu derbyn y caiff y newidiadau i'r ddogfen eu dangos ar-lein. 

Y Cyfeirnod Ffeilio yw <XXX-XXXXXX>.
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn mewn unrhyw ohebiaeth â Thŷ'r Cwmnïau.

Mae pob dogfen a ffeilir o dan WebFiling ar gael i’w gweld/lawrlwytho am 10 diwrnod ar ôl y cyflwyno gwreiddiol, drwy ddethol yr opsiwn ‘Gweld data wedi’u cyflwyno’ o’r brif Ddewislen. Gweler HELP WebFiling am ragor o wybodaeth.

Sylwer na fydd ceisiadau am adael neu ymuno â chynllun PROOF yn cael eu dangos ar y cofnod cyhoeddus nac o dan yr opsiwn 'Gweld y Data a Gyflwynwyd'.

Diolch am ddefnyddio gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau.

Canolfan Cysylltu tel +44 (0)303 1234 500 neu e-bost: enquiries@companieshouse.gov.uk

D.S. Os ydych yn cofrestru am PROOF ac yn ffeilio Cyfrifon neu ddogfennau eraill yn ystod yr un sesiwn, gwnewch yn siŵr fod atebion cydnabyddiaeth a derbyniad wedi cael eu derbyn ar gyfer yr holl drafodion.

E-bost 2

Caiff y neges e-bost (2) ganlynol ei chynhyrchu pan fydd y cais am ymuno â PROOF wedi’i dderbyn.  Bydd cadarnhad eich bod wedi’ch derbyn i’r cynllun PROOF yn cael ei ddangos yn y blwch statws PROOF newydd (sgrin 4) ar sgrin dewislen WebFiling.

Crewyd y neges hon mewn ymateb i'r manylion cwmni a gyflwynwyd i wasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau ar <dd/mm/bbbb>.

Rhif Cwmni: <01234567>
Enw Cwmni: <A Demo Company Ltd.>

Derbyniwyd y cais PROOF ar gyfer y cwmni uchod ar <dd/mm/bbbb>.  

Y Cyfeirnod Ffeilio yw <XXX-XXXXXX>.
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn mewn unrhyw ohebiaeth â Thŷ'r Cwmnïau.

Mae pob dogfen a ffeilir o dan WebFiling ar gael i’w gweld/lawrlwytho am 10 diwrnod ar ôl y cyflwyno gwreiddiol, drwy ddethol yr opsiwn ‘Gweld data wedi’u cyflwyno’ o’r brif Ddewislen. Gweler HELP WebFiling am ragor o wybodaeth.

Sylwer na fydd ceisiadau am adael neu ymuno â chynllun PROOF yn cael eu dangos ar y cofnod cyhoeddus nac o dan yr opsiwn 'Gweld y Data a Gyflwynwyd'.

Diolch am ddefnyddio gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau.

Canolfan Cysylltu tel +44 (0)303 1234 500 neu e-bost: enquiries@companieshouse.gov.uk

Sgrin 4

Bydd blwch statws PROOF ar dudalen dewislen WebFiling (sgrin 4) yn cadarnhau statws PROOF y cwmni.  Gallwch weld hyn ar ochr dde’r sgrin o dan ‘tasgau eraill’

Existing Stat PROOF customers - screen 4

(Sylwer ei bod yn bosib na fydd ceisiadau am adael neu ymuno â PROOF dros y 48 awr ddiwethaf wedi cael eu cymhwyso eto. Aros Penderfyniad fod wedi’i ddangos).