Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

Tŷ’r Cwmnïau yn Cyflwyno Gwasanaeth Gwrth-Gipio

CYNLLUN ELECTRONIG PROOF: AMODAU CYMRYD RHAN

1. Diffiniadau

Yn yr Amodau hyn a’r Ffurflen Gydsyniad ar gyfer Ffeilio ar Bapur:

mae i “cwmni” yr ystyr sydd yn adran 735(1);

mae’r “Côd Dilysu Cwmni” yn golygu’r côd
(i) a gafodd ei neilltuo i’r cwmni gan y Cofrestrydd; neu
(ii) y rhoes y Cofrestrydd wybod amdano i’r cwmni i’w ddefnyddio gan y cwmni hwnnw wrth ddilysu dogfennau a gaiff eu cyflwyno i’r Cofrestrydd drwy WebFiling neu Software Filing;

mae “Ffurflen Gydsyniad ar gyfer Ffeilio ar Bapur” yn golygu dogfen bapur sydd ar gael oddi wrth y Cofrestrydd i’w ddefnyddio gan Gwmni a Ymunodd er mwyn cyfleu ei gydsyniad i eitem ffeilio statudol gael ei chyflwyno i’r Cofrestrydd ar bapur;

mae “cyfarwyddyd” yn golygu cyfarwyddyd a gafodd ei roi gan y Cofrestrydd o dan adran 707B neu (i’r graddau eu bod yn dal mewn grym i’w bryd i’w gilydd) y cymeradwyaethau a roddodd y Cofrestrydd o dan adran 707 cyn iddi gael ei diddymu;

mae “Electronic Filing” yn golygu Software Filing a/neu Web-Filing yn ôl yr amgylchiadau;

mae “cynllun electronig PROOF”, “cynllun e-PROOF” neu “PROOF” yn golygu’r drefn a gaiff ei disgrifio yn yr amodau hyn;

mae “Amgylchiadau wedi’u Heithrio” yn golygu unrhyw un o’r canlynol:
(i) bod un o’r amgylchiadau canlynol yn wir am y cwmni
(a) mae ganddo fwy na 80 o aelodau (rhaid cyfrif pob cyfranddeiliad yn aelod yn ei rinwedd/rhinwedd ei hun at y dibenion hyn)
(b) mae ganddo fwy na chwe dosbarth o gyfrannau
(c) mae ganddo fwy na deg cyd-gyfranddeiliad ar gyfer unrhyw gyfran/gyfrannau
(d) mae ganddo gyfalaf cyfrannau mewn mwy na chwe math o arian treigl,
(ii) bod mwy na 255 o newidiadau i’w cynnwys mewn un weithred ffeilio;

mae “Digwyddiad Anghymhwyster” yn golygu unrhyw un o’r canlynol:
(i) bod un neu ragor o’r dogfennau canlynol wedi’u rhoi ar y gofrestr yng nghyswllt y cwmni
(a) unrhyw un o’r ffurflenni canlynol wedi’u pennu o dan Reolau Ansolfedd 1986 neu Reolau Ansolfedd (Yr Alban) 1986 fel y bo’r achos, yn ôl fel y gall y naill neu’r llall gael eu diwygio o bryd i’w gilydd -
Ffurflen 1(SC) (Hysbysiad am Benodi Derbynnydd gan Ddeiliad Arwystl Nofiol)
Ffurflen 1.1 (Adroddiad am Gyfarfod yn Cymeradwyo Cytundeb Gwirfoddol)
Ffurflen 1.1(SC) (Hysbysiad am Adroddiad am Gyfarfod yn Cymeradwyo Cytundeb Gwirfoddol)
Ffurflen 2(SC) (Penodiad Derbynnydd gan y Llys)
Ffurflen 2.6 (Hysbysiad am Orchymyn Gweinyddu)
Ffurflen 2.7 (Gorchymyn Gweinyddu)
Ffurflen 2.11B(SC) (Hysbysiad am Benodi Gweinyddwr)
Ffurflen 2.12B (Hysbysiad am Benodi Gweinyddwr)
Ffurflen 2.21B (SC) (Hysbysiad bod Gweinyddiad wedi Dod i Ben yn Awtomatig)
Ffurflen 2.25B (SC) (Hysbysiad am Symud Ymlaen o Weinyddiad i Ymddatod Gwirfoddol gan y Credydwyr)
Ffurflen 2.26B (SC) (Hysbysiad am Symud Ymlaen o Weinyddiad i Ddiddymu)
Ffurflen 2.34B (Hysbysiad am Symud Ymlaen o Weinyddiad i Ymddatod Gwirfoddol gan y Credydwyr)
Ffurflen 2.35B (Hysbysiad am Symud Ymlaen o Weinyddiad i Ddiddymu)
Ffurflen 4.2(SC) (Hysbysiad am Orchymyn Dirwyn i Ben)
Ffurflen 4.9(SC) (Hysbysiad am Benodi Datodydd)
Ffurflen 4.20 (Datganiad Sefyllfa wrth Ymddatod yn Wirfoddol gan y Credydwyr
Ffurflen 4.70 (Datganiad Solfedd wrth Ddirwyn i Ben yn Wirfoddol gan yr Aelodau)
(b) Gorchymyn Dirwyn y Ben gan y Llys
(c) Ffurflen F14 (Hysbysiad am Ddirwyn i Ben yn Orfodol gan y Llys)
(d) Penderfyniad i ddirwyn y cwmni i ben yn wirfoddol
(e) Ffurflen 600 (Hysbysiad am Benodi Datodydd wrth Ddirwyn i Ben yn Wirfoddol)
(f) Ffurflen 405(1) (Hysbysiad am Benodi Derbynnydd neu Reolwr)
(g) Ffurflen 652a (Cais am Ddileu o’r Gofrestr),
(ii) bod cofnod y cwmni a gedwir gan y Cofrestrydd yn cael ei ddangos fel “wedi cau”;

mae “Cwmni a Ymunodd” yn golygu cwmni a gafodd ei dderbyn i gynllun e-PROOF ac sydd â hawl i fanteisio ar fuddion y cynllun o dan yr Amodau hyn;

mae “cynllun papur PROOF” yn golygu cynllun ar-lein gwreiddiol y Cofrestrydd ar gyfer cyflwyno gwybodaeth ar bapur ond sydd bellach wedi’i gau i ymgeiswyr newydd;

mae “cyflwynydd” yn golygu’r sawl sy’n cyflwyno’r ddogfen, heblaw am y ffaith, os na all y Cofrestrydd benderfynu pwy gyflwynodd y ddogfen, yr ystyrir ei bod wedi’i chyflwyno gan y cwmni o’i swyddfa gofrestredig;

mae “Digwyddiad Ail-gymhwyster” yn golygu unrhyw un o’r canlynol:
(i) bod un neu ragor o’r dogfennau canlynol wedi’u rhoi ar y gofrestr yng nghyswllt y cwmni
(a) unrhyw un o’r ffurflenni canlynol wedi’u pennu o dan Reolau Ansolfedd 1986 neu Reolau Ansolfedd (Yr Alban) 1986 fel y bo’r achos, yn ôl fel y gall y naill neu’r llall gael eu diwygio o bryd i’w gilydd -
Ffurflen 1.2 (Gorchymyn Adalw neu Atal Cytundeb Gwirfoddol)
Ffurflen 1.2 (SC) (Hysbysiad am Orchymyn Adalw neu Atal Cytundeb Gwirfoddol)
Ffurflen 1.4 (Hysbysiad am Gwblhau Cytundeb Gwirfoddol)
Ffurflen 1.4 (SC) (Hysbysiad am Gwblhau Cytundeb Gwirfoddol)
Ffurflen 2.4 (SC) (Hysbysiad am Gyflenwi Gorchymyn Gweinyddu)
Ffurflen 2.19 (Hysbysiad am Gyflenwi Gorchymyn Gweinyddu)
Ffurflen 2.21B(SC) (Hysbysiad bod Gweinyddiad wedi Dod i Ben yn Awtomatig)
Ffurflen 2.23B (SC) (Hysbysiad bod Gweinyddiad wedi Dod i Ben)
Ffurflen 2.24B (SC) (Hysbysiad am Orchymyn Llys yn Dod â Gweinyddiad i Ben)
Ffurflen 2.30B (Hysbysiad bod Gweinyddiad wedi Dod i Ben yn Awtomatig)
Ffurflen 2.32B (Hysbysiad bod Gweinyddiad wedi Dod i Ben)
Ffurflen 2.33B (Hysbysiad am Orchymyn Llys yn Dod â Gweinyddiad i Ben)
Ffurflen 3 (SC) (Hysbysiad am Roi Heibio i Weithredu’n Dderbynnydd neu am Ddiswyddiad Derbynnydd)
Ffurflen 4.17 (SC) (Hysbysiad am Gyfarfod Terfynol y Credydwyr)
Ffurflen 4.26 (SC) (Hysbysiad am Gyfarfod Terfynol wrth Ddirwyn i Ben yn Wirfoddol
Ffurflen 4.27 (SC) (Hysbysiadau am Weithrediadau Gorchymyn Llys wrth Ddirwyn i Ben gan y Llys)
(b) Ffurflen 405(2) (Hysbysiad am Roi Heibio i Weithredu’n Dderbynnydd neu’n Rheolwr)
(c) Ffurflen 652c (Tynnu’n ôl Gais am Ddirwyn i Ben) 
(d) Gorchymyn gan y Llys yn dirymu gorchymyn blaenorol i ddirwyn i ben

mae i “cofrestr” yr ystyr sydd yn adran 1080(2) o Ddeddf Cwmnïau 2006;

mae “Cofrestrydd” yn golygu Cofrestrydd Cwmnïau Cymru a Lloegr a Chofrestrydd Cwmnïau yr Alban yn ôl yr amgylchiadau;

mae “adran” yn golygu adran o Ddeddf Cwmnïau 1985;

mae “Software Filing” yn golygu’r cyfleustra Software Filing a gaiff ei ddarparu gan y Cofrestrydd i alluogi cyflwynwyr i gyflwyno dogfennau statudol i’r Cofrestrydd drwy’r drefn cyfathrebu electronig gan ddefnyddio pecyn meddalwedd cyfryngol;

mae “ffurflen ôl-a-blaen” yn golygu Ffurflen 363s ar bapur, ac iddi ddyddiad diwallu cyn 1 Hydref 2008; 

mae “yr Amodau” yn golygu’r amodau a’r telerau hyn gyda golwg ar gynllun e-PROOF fel y gallant gael eu diwygio o bryd i’w gilydd;

mae “Web-Filing” yn golygu’r cyfleustra WebFiling a gaiff ei ddarparu gan y Cofrestrydd i alluogi cyflwynwyr i gyflwyno dogfennau statudol i’r Cofrestrydd drwy’r drefn cyfathrebu electronig gan ddefnyddio’r Wefan;

mae “y Wefan” yn golygu gwefan www.companieshouse.gov.uk;

mae cyfeiriadau at “ysgrifennu” yn cynnwys negesau e-bost a ffacs.

2. Diwygio’r Amodau hyn

2.1 Gall y Cofrestrydd ddiwygio’r Amodau hyn drwy roi rhybudd ar y Wefan, gan nodi manylion yr amodau fel y cawsant eu diwygio.  Bydd y Cofrestrydd hefyd yn rhoi gwybod i’r cwmni am y newidiadau drwy nodyn-tynnu-sylw ar dudalennau Web-Filing y cwmni.

3. Ymuno â chynllun e-PROOF

3.1 Wrth wneud cais am ymuno â chynllun e-PROOF, mae’r cwmni’n cyfarwyddo’r Cofrestrydd i wrthod pob rhyw ffeilio a gyflwynir i’r Cofrestrydd ar  Ffurflenni 287, 288a, 288b, 288c neu 363a neu drwy ddefnyddio’r ffurflen ôl-a-blaen, ac i ddychwelyd y ffurflenni papur hyn, heb eu cofrestru, i’r cyflwynydd.  Os derbynnir cais y cwmni am ymuno, bydd y Cofrestrydd yn gweithredu yn unol â’r cyfarwyddyd hwn.

3.2 Dim ond os bodlona’r amodau canlynol y caiff cwmni wneud cais am ymuno â chynllun e-PROOF:
3.2.1 mae wedi sicrhau Côd Dilysu Cwmni;
3.2.2 mae wedi cofrestru ar gyfer Web-Filing ar y Wefan; a
3.2.2 nid oes unrhyw Ddigwyddiad Anghymhwyster wedi codi yn ei gyswllt, neu, lle cododd Digwyddiad Anghymhwyster, cafodd hwnnw ei ddisodli gan Ddigwyddiad Ail-gymhwyster dilynol.

3.3  Wrth gyflwyno cais y cwmni am ymuno â chynllun e-PROOF, mae’r ymgeisydd yn cadarnhau ac yn cyfleu i’r Cofrestrydd:
3.3.1 ei fod wedi’i awdurdodi’n briodol gan y cwmni i wneud y cais ar ei ran;
3.3.2 ei fod wedi darllen a deall yr Amodau hyn a’i fod wedi’i awdurdodi i’w derbyn ar ran y cwmni.

3.4  Rhaid i gais y cwmni am ymuno â chynllun e-PROOF gael ei wneud drwy ddefnyddio Web-Filing.  I wneud cais, mae’n rhaid i’r ymgeisydd:
3.4.1 gyrchu tudalennau Web-Filing y cwmni drwy fewnbynnu rhif cofrestru’r cwmni a’r Côd Dilysu Cwmni;
3.4.2 dethol yr opsiynau “cofrestru ar gyfer PROOF” priodol ar y tudalennau Web-Filing; a
3.4.3 cyflwyno’r cais drwy gyfrwng y botwm “Gwneud cais am ymuno”.

3.5 Mae gan y Cofrestrydd ddisgresiwn llwyr o ran p’un ai i dderbyn cais y cwmni i ymuno â chynllun e-PROOF neu beidio.  Bydd y Cofrestrydd yn rhoi gwybod i’r cwmni am ei benderfyniad yn ysgrifenedig.  Nid yw sgriniau'r Wefan, negesau e-bost na hysbysiadau eraill sy’n cadarnhau bod cais y cwmni wedi dod i law, yn golygu bod y Cofrestrydd wedi derbyn y cais.

3.6 Bydd cais y cwmni am ymuno â chynllun e-PROOF a derbyniad y Cofrestrydd o’r cais hwnnw yn ddarostyngedig i’r Amodau hyn.

3.7 Ni chaiff cwmni gymryd rhan yng nghynllun papur PROOF a chynllun electronig PROOF ar yr un pryd. Ystyrir yn awtomatig fod cwmni sy’n rhan o gynllun papur PROOF pan fydd y Cofrestrydd yn derbyn ei gais am ymuno â chynllun electronig PROOF, wedi tynnu’n ôl o gynllun papur PROOF y pryd hwnnw  Mae’r Cofrestrydd a’r cwmni yn cytuno i amrywio amodau cynllun papur PROOF i’r graddau sy’n ofynnol i weithredu’r paragraff hwn.

4. Cwmni a Ymunodd yn Cyflwyno Gwybodaeth i’r Cofrestrydd

4.1 Rhaid i unrhyw wybodaeth y mae adrannau 287, 288 neu 363 yn mynnu i Gwmni a Ymunodd ei chyflwyno i’r Cofrestrydd gael ei chyflwyno drwy ddefnyddio’r drefn Electronic Filing.  Yr unig eithriadau a ganiateir yw cyfeiriad preswyl arferol unigolyn y mae gorchymyn cyfrinachedd mewn grym yn ei gyswllt o dan adran 723B.

4.2 Rhaid i’r Cwmni a Ymunodd gydymffurfio ag amodau’r Cyfarwyddyd Electronic Filing wrth gyflwyno’r wybodaeth y cyfeirir ati yng Nghymal 4.1 i’r Cofrestrydd.

4.3 Yn amodol ar ddarpariaeth paragraffau 4.4, 4.5 a 4.6, bydd Ffurflen 287, 288a, 288b, 288c neu 363a ar bapur neu ffurflen ôl-a-blaen a gyflwynir i’r Cofrestrydd mewn cysylltiad â Chwmni a Ymunodd yn cael ei gwrthod a’i dychwelyd i’r cyflwynydd yn unol â chyfarwyddyd y Cwmni a Ymunodd o dan Gymal 3.1.  

4.4 Os caiff Ffurflen 287, 288a, 288b, 288c neu 363a ar bapur neu ffurflen ôl-a-blaen ei chyflwyno i’r Cofrestrydd ar y cyd â Ffurflen Gydsyniad wedi’i chwblhau ar gyfer Ffeilio ar Bapur, ni fydd y ffurflen honno
4.4.1 yn cael ei gwrthod yn unol â pharagraff 4.3; a
4.4.2 bydd yn cael ei chofnodi ar y gofrestr ar yr amod bod y ffurflen yn bodloni archwiliadau arferol y Cofrestrydd

4.5 Ni ellir cyflwyno i’r Cofrestrydd hysbysiad am benodi cyfarwyddwr yn unol ag adran 288(2) drwy ddefnyddio Electronic Filing os oes raid i’r hysbysiad hwnnw gynnwys mwy na 50 safle arall fel cyfarwyddwr a ddelir gan y cyfarwyddwr perthnasol.  Mewn amgylchiadau felly, bydd raid i’r Cwmni a Ymunodd roi gwybod am y penodiad i’r Cofrestrydd drwy ddefnyddio Ffurflen 288a ar bapur neu’r ffurflen ôl-a-blaen ar y cyd â Ffurflen Gydsyniad wedi’i chwblhau ar gyfer Ffeilio ar Bapur.

4.6 Yn yr Amgylchiadau Eithriedig, ni fydd modd i Gwmni a Ymunodd gyflwyno drwy Web-Filing yr wybodaeth a fynnir gan adran 363.  Mewn amgylchiadau felly, bydd raid i’r Cwmni a Ymunodd gyflwyno’r wybodaeth i’r Cofrestrydd drwy ddefnyddio
4.6.1 Ffurflen 363a ar bapur neu ffurflen ôl-a-blaen fel sy’n gymwys, ar y cyd â Ffurflen Gydsyniad wedi’i chwblhau ar gyfer Ffeilio ar Bapur; neu
4.6.2 Software Filing.
Dim ond at ddibenion adran 363 y mae’r drefn cyflwyno o dan baragraffau 4.6.2 neu 4.6.3 ac ni ellir manteisio arni hefyd at ddibenion unrhyw adrannau eraill.

5. Dewis Ymadael â Chynllun e-PROOF

5.1 Gall Cwmni a Ymunodd roi gwybod i’r Cofrestrydd ei fod am ymadael â chynllun e-PROOF unrhyw adeg drwy gyrchu’i dudalennau Web-Filing a dethol yr opsiwn “Dewis Ymadael â PROOF”.  Caiff y Cwmni a Ymunodd ei ailgyfeirio i’r rhan briodol o’r Wefan lle bydd modd iddo gyflwyno’i gais am ymadael â chynllun e-PROOF.  Bydd y Cofrestrydd yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i’r Cwmni a Ymunodd wrth brosesu’r cais (fel arfer o fewn dau ddiwrnod gwaith).  Pan roir yr hysbysiad hwnnw, bydd y Cwmni a Ymunodd yn peidio â bod yn rhan o gynllun e-PROOF. 

6. Digwyddiad Anghymhwyster

Bydd Cwmni a Ymunodd yn peidio’n awtomatig â bod yn Gwmni a Ymunodd wrth i Ddigwyddiad Anghymhwyster godi mewn cysylltiad â’r cwmni hwnnw. Dim ond yn unol â darpariaeth paragraff 3.4 y caiff cwmni o’r fath wneud cais am ailymuno â chynllun e-PROOF.

7. Atal/Tynnu’n ôl Gynllun e-PROOF

7.1 Mae’r Cofrestrydd yn cadw’r hawl i atal neu dynnu cynllun e-PROOF yn ôl ar sail rheswm neu’n ddireswm a chyda golwg ar un neu ragor o gwmnïau neu bob cwmni. Er mwyn dileu pob amheuaeth, ni yw anargaeledd cyfleusterau Electronic Filing y Cofrestrydd yn golygu’n awtomatig fod cynllun e-PROOF wedi’i atal neu ei dynnu’n ôl. Os bydd y Cofrestrydd yn manteisio ar ei hawl i atal neu dynnu’n ôl gynllun e-PROOF, bydd darpariaethau eraill y Cymal 7 hwn yn gymwys yn ôl sy’n briodol.

7.2 Bydd y Cofrestrydd yn rhoi gwybod bod cynllun e-PROOF wedi cael ei atal neu ei dynnu’n ôl drwy ysgrifennu at bob Cwmni a Ymunodd lle mae’r atal neu’r tynnu’n ôl yn gymwys.

7.3 Bydd unrhyw Gwmni a Ymunodd lle mae ataliad (o’i wrthgyferbynnu â thynnu’n ôl) yn gymwys
7.3.1 yn peidio â chael ei ystyried yn Gwmni a Ymunodd yn ystod cyfnod yr atal at ddibenion yr Amodau hyn, a
7.3.2 os daw’r atal i ben, bydd y cwmni hwnnw
(a) yn cael ei ystyried yn Gwmni a Ymunodd heb fod angen i’r cwmni gymryd unrhyw gamau, a
(b) yn cael ei hysbysu gan y Cofrestrydd fod yr atal wedi dod i ben.

7.4 Wrth dynnu cynllun e-PROOF yn ôl, bydd unrhyw Gwmni a Ymunodd lle mae’r tynnu’n-ôl hwnnw’n gymwys yn peidio’n awtomatig â bod yn Gwmni a Ymunodd.

8. Côd Dilysu Cwmni

8.1 Rhaid i gwmni gynnwys ei Gôd Dilysu Cwmni gwirioneddol ar unrhyw Ffurflen Gydsyniad ar gyfer Ffeilio ar Bapur a gaiff ei chyflwyno ganddo.

8.2 Rhaid i gwmni beidio â chynnwys ei Gôd Dilysu Cwmni ar unrhyw ffurflenni papur eraill.  Rhaid cadw’r Côd Dilysu Cwmni’n gyfrinachol.

9. Hysbysiadau i’r cwmni
Bydd unrhyw hysbysiadau neu negesau cydnabod y mae’r Amodau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cofrestrydd eu hanfon i gwmni yn cael eu hanfon yn ysgrifenedig.   Mae ysgrifennu yn cynnwys e-bost.

10. Rhwymedigaethau Pwysig

10.1 Ni ellir cymryd bod unrhyw beth yn yr Amodau hyn yn dileu neu’n diwygio rhwymedigaethau cwmni i gyflwyno hysbysiadau, rhybuddion neu ffurflenni i’r Cofrestrydd o dan unrhyw ddeddfiad. Nid yw’r Cofrestrydd yn gyfrifol os bydd unrhyw beth yn digwydd (p’un ai gyda golwg ar gyfundrefn Electronic Filing y Cofrestrydd neu system y cwmni neu fel arall) sy’n debygol o wahardd neu rwystro, neu sydd yn gwahardd neu’n rhwystro, Cwmni a Ymunodd rhag cydymffurfio â’i rwymedigaethau statudol drwy ddefnyddio Electronic Filing. Cyfrifoldeb y Cwmni a Ymunodd yw sicrhau ei fod yn cydymffurfio’n ddyledus â’i rwymedigaethau statudol.  Mater i’r Cwmni a Ymunodd yn llwyr yw a fydd yn cyflawni hyn drwy gyflwyno ffurflenni papur ar y cyd â Ffurflen Gydsyniad ar gyfer Ffeilio ar Bapur, neu drwy Ddewis Ymadael â Chynllun e-PROOF, neu drwy ryw ddull arall.

10.2 Nid oes dim yn yr Amodau hyn i’w gymryd fel rhywbeth sy’n gorfodi’r Cofrestrydd i sicrhau argaeledd cyfundrefn Electronic Filing y Cofrestrydd

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies