Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

Tŷ’r Cwmnïau yn Cyflwyno Gwasanaeth Gwrth-Gipio

Gwasanaeth PROtected Online Filing (PROOF)

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn ymwybodol ers tro byd o’r niwed y gall herwgipwyr ei beri i gwmnïau a chyflenwyr nwyddau a gwasanaethau.  Wrth herwgipio cwmni, bydd twyllwyr fel arfer yn newid manylion cyfarwyddwyr a swyddfa gofrestredig y cwmni dan sylw.  I helpu i ymladd twyll cwmni, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cyflwyno cynllun PROOF (PROtected Online Filing).

I ymuno â chynllun PROOF , bydd angen yn gyntaf ichi fod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau.  Unwaith eich bod wedi cofrestru a chwblhau’r broses lofnodi, ni raid ond ticio’r blwch i gadarnhau eich bod wedi derbyn yr amodau a’r telerau o dan adran 1070 o Ddeddf Cwmnïau 2006 a dethol ‘ymuno â PROOF’.

Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i helpu cwmnïau i ddiogelu eu hunain rhag ffeilio twyllodrus, gan ei fod yn atal unigolion rhag ffeilio rhai ffurflenni ar bapur.  Y ffurflenni y mae cynllun PROOF yn eu cwmpasu yw:

  • Penodi
  • Terfynu Penodiad
  • Newid Manylion (Swyddogion Cwmni)
  • Newid Cyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig
  • Y Ffurflen Flynyddol

Unwaith eich bod wedi cofrestru o dan gynllun PROOF, fel arfer bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod  unrhyw fersiynau papur o’r ffurflenni hyn ac yn eu gyrru’n ôl i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig.

Mae hyn yn helpu i sicrhau mai’r cwmni ei hun sydd wedi cofrestru unrhyw newidiadau a wneir. Er mwyn atal dogfennau papur rhag cael eu gwrthod yn ddiangen mae’n hanfodol bod unrhyw un sydd ag awdurdod i ffeilio ar ran y cwmni yn cael gwybod am y cofrestriad PROOF.

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn fersiynau papur o’r dogfennau a rhestrir uchod gan gwmnïau sy’n perthyn i’r cynllun PROOF o dan amgylchiadau eithriadol, ond dim ond pan cyflwynir ffurflen ganiatâd wedi ei hawdurdodi gan gyfarwyddwyr y cwmni ar bapur gyda nhw. Dylai’r cwmnïau sydd wedi ymuno â PROOF gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau i ofyn am gyngor cyn ffeilio unrhyw ddogfennau ar bapur

Sylwer: Os oes anghydfod mewnol yn bwrw ymlaen yn eich cwmni ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i ymuno â chynllun PROOF. Ni all Tŷ’r Cwmnïau ymyrryd mewn anghydfod cwmni mewnol a rhaid i’r gwahanol ochrau geisio cyngor proffesiynol cyfreithiol annibynnol. Pan fydd y Cofrestrydd yn gwbl fodlon bod yr anghydfod mewnol wedi’i ddatrys, daw’r cwmni’n gymwys i ymuno â’r cynllun.

Gwasanaeth Web Filing
Dyma’n gwasanaeth cofrestru ar-lein sy’n eich galluogi i gyflwyno gwybodaeth gwmni yn fwy diogel.

Darllenwch fwy am Gynllun PROOF Tŷ’r Cwmnïau

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies