Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

Gwybodaeth a chanllawiau


Hysbysu Twyll i Dŷ’r Cwmnïau

Protected Online FilingAsiantaeth weithredol i’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS) yw Tŷ’r Cwmnïau. Swyddogaeth Tŷ’r Cwmnïau yw derbyn, storio a lledaenu gwybodaeth oddi wrth gwmnïau cyfyngedig a rhai cyrff penodol eraill.

Mae’r cynnydd mewn achosion o Dwyll yn fater difrifol sy’n destun pryder i Dŷ’r Cwmnïau. Sylweddolwn bod hyn hefyd yn peri pryder i’n cwsmeriaid a dymunwn wneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo i ddatrys y materion hyn.

Gallwn gynnig gwybodaeth am faterion o ffeiliau twyllodrus a anfonir at Dŷ’r Cwmnïau, ond noder os gwelwch yn dda nad oes gennym unrhyw bwerau penodol i ymchwilio i’r materion hyn.  Dylid cyfeirio unrhyw honiadau o dwyll sy’n codi yn sgîl ddefnyddio ffeilio ffug, at yr heddlu gan mai hwy yw’r awdurdod priodol i ddelio â’r cyfryw faterion. Byddwn yn cysylltu â chi os dylid cyfeirio’r mater y cyfeirioch ato i sylw’r heddlu

Os derbyniwn gais wedyn gan yr heddlu am wybodaeth, gwnawn ein gorau glas i’w cynorthwyo mewn unrhyw fodd y gallwn.

Noder os gwelwch yn dda y gall unrhyw ymchwiliad nad yw’n ymwneud â ffeilio ffurflenni yn Nhŷ’r Cwmnïau ond sy’n ymwneud ag ymddygiad cwmni a/neu ei swyddogion gael ei wneud gan Gangen Ymchwilio Cwmnïau

Gellir cael manylion am sut i wneud cwyn iddynt hwy drwy ffonio 0207 596 6100 neu drwy ymweld â’u gwefan ar www.insolvency.gov.uk/cib/index.htm

Noder os gwelwch yn dda y gallwn ond rhoi gwybodaeth am faterion lle mae’r manylion a gedwir gennym yn anghywir yn sgîl ffeilio ffurflen statudol - ymhlith y materion hyn mae’r canlynol:

  • Cyfeiriadau Swyddfa Gofrestredig yn cael eu newid heb gymeradwyaeth y cwmni
  • Pobl yn cael eu penodi yn swyddogion cwmnïau heb eu cydsyniad
  • Enwau cwmnïau yn cael eu newid heb ganiatâd
  • Cyfeiriadau annilys yn cael eu defnyddio ar gyfer swyddfa gofrestredig cwmni a/neu felcyfeiriad swyddog cwmni
  • Anghydfod Mewnol rhwng swyddogion cwmni ynglŷn â ffeilio dogfennau annilys

Os yw’ch cwyn yn bodloni unrhyw un o’r uchod, gellwch e-bostio manylion atom i’r cyfeiriad fraud@companieshouse.gov.uk (Ein bwriad fydd i ateb eich e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith)

A fyddech gystal â chyflwyno’r manylion llawn am eich cwyn, gan gynnwys eich manylion cysylltu.

Gellwch gael gwybodaeth am wahanol fathau o ‘sgamiau’ megis sgamiau fisa swydd/gwaith, escrow a loteri, ar dudalen ‘Rhybudd Twyll Pwysig’.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies