Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Beth yw cwci?



Beth yw cwci?

Cwci yw:

Ffeil destun fach iawn a roir ar ddisg galed eich cyfrifiadur wrth gyrchu gwefan. Yn ei hanfod, cerdyn adnabod ydyw, sy’n unigryw i chi ac na all neb ond y gweinyddwr a’i rhoddodd ichi ei ddarllen. Ni ellir mo’i ddefnyddio i gyflwyno firws i’ch cyfrifiadur.

Sut olwg sydd ar gwci?
Mae cwci yn edrych rhywbeth fel hyn, yn rhes fer o rifau a llythrennau. Dyma’ch cerdyn adnabod unigryw.

Y MSPDom2CH.com/017187251918083210785227454198429423821*

Gallwch gyrchu’r ffeiliau cwci ar eich cyfrifiadur drwy:

1. Clicio ar My Computer
2. Cyrchu’r man lle cedwir eich ffeiliau Windows (fel arfer gyriant C:)
3. Agor plygell Windows
4. Agor y plygell cwcis

Yn y plygell hwn y cedwir yr holl wybodaeth am gwcis a gasglwyd gennych. I agor cwci, ni raid ond gwneud clic dwbl ar y ffeil sydd eisiau.

Diben cwci yw:
Rhoi gwybod i gwmnïau pan fyddwch yn dychwelyd i’w gwefannau a pha dudalennau neu wasanaethau a ddefnyddiwch tra’ch bod yno. Ni ddefnyddir cwci i gadw na chasglu unrhyw wybodaeth bersonol. Yr unig beth a wnaiff yw rhoi gwybod i gwmni pan fydd rhywun â’ch adnabyddiaeth unigryw wedi dychwelyd i’r wefan.

Sut mae cwci o gymorth i chi:
Drwy ddefnyddio cwcis, bydd modd inni weld sut mae’n gwefan yn cael ei harfer. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu pennu’r rhannau mwyaf poblogaidd o’n gwefan a’i gwneud yn haws ichi eu cyrchu. Gallwn hefyd gael gwared â thudalennau gwe nad ydych yn eu defnyddio, a chanolbwyntio’n hymdrechion ar gyflwyno’r wybodaeth sydd angen arnoch.

Sut mae cwci o gymorth i ni:
Bydd o gymorth inni fod yn fwy effeithiol gan fod modd inni ddysgu beth sy’n bwysig i’n cwsmeriaid a beth nad yw.

Os nad ydych am dderbyn cwci gennym:
Gallwch ddweud wrth eich porwr gwe i dynnu’ch sylw bob tro y caiff cwci ei gynnig. Wedyn, gallwch benderfynu a ydych am dderbyn un neu beidio.

Os ydych yn defnyddio Internet Explorer 6.0:

1. Detholwch Tools, yna
2. Internet Options
3. Cliciwch y llabed Privacy
4. Y gosodiad diofyniad yw “medium”. Symudwch y llithrydd i ddewis y gosodiad sydd orau gennych.
5. Gallwch hefyd glicio Advanced ar gyfer triniaeth arbenigol i gwcis.

Os ydych yn defnyddio Internet Explorer 5.0:

1. Detholwch Tools, yna
2. Internet Options
3. Cliciwch y llabed Security
4. Cliciwch Internet, yna Custom Level
5. Rholiwch i lawr at Cookies a dethol un o’r ddau opsiwn.

Os ydych yn defnyddio Internet Explorer 4.0:

1. Detholwch View, yna
2. Internet Options
3. Cliciwch y llabed Advanced
4. Rholiwch i lawr at yr ebychnod melyn o dan Security a dethol un o’r tri opsiwn i reoli’r ffordd y caiff cwcis eu defnyddio.

Sut i gael gweld y cwcis a dderbyniwyd gennych:

Os ydych yn defnyddio Internet Explorer 6.0

Ar eich bar gorchwylion, cliciwch:

1. Tools, yna
2. Internet Options
3. O dan y llabed General (y llabed ddiofyniad) cliciwch
4. Settings, yna
5. View Files.

Os ydych yn defnyddio Internet Explorer 5.0

Ar eich bar gorchwylion, cliciwch:

1. Tools, yna
2. Internet Options
3. O dan y llabed General (y llabed ddiofyniad) cliciwch
4. Settings, yna
5. View Files.

Os ydych yn defnyddio Internet Explorer 4.0

Ar eich bar gorchwylion, cliciwch:

1. View, yna
2. Internet Options
3. O dan y llabed General (y llabed ddiofyniad) cliciwch
4. Settings, yna
5. View Files.
Netscape Communicator 4.0:

Mae Netscape yn crynhoi’r holl gwcis yn un ffeil ar eich disg galed. Bydd angen ichi ddod o hyd i’r ffeil hon, a elwir Cookie.txt ar beiriannau Windows.
Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies