Ymwadiad |
||||
|
|
Ymwadiad NI fwriedir i’r wybodaeth sydd ar gael ar y wefan hon fod yn gynhwysfawr, a hepgorwyd llawer o fanylion a all fod yn berthnasol i amgylchiadau arbennig. Gan hynny, ni ddylid ystyried y wefan yn ffynhonnell gyflawn ar gyfer gwybodaeth am gwmnïau a’r gyfraith gwmnïau, a chynghorir darllenwyr i geisio cyngor proffesiynol annibynnol cyn gweithredu ar unrhyw beth a gynhwysir yma. Ni all Ty’r Cwmnïau dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau camgymryd na hepgor. Nodiadau i Ddefnyddwyr Chwiliadau Cwmni neu Chwiliadau Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd Mae’r wybodaeth sydd ar gael yma wedi ei thynnu o’r Gofrestr Gwmnïau/Cofrestr y Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd, a gaiff eu diweddaru’n gyson. Gall hyn olygu bod gwallau achlysurol yn codi – gwallau y byddwn yn eu cywiro mor fuan ag y cân nhw eu tynnu i’n sylw. Os sylwch ar rywbeth y credwch y gallai fod yn anghywir, rhowch wybod inni fel y gallwn, os bydd angen, unioni’r gronfa ddata. Gwybodaeth am Gwmnïau wedi ei Darparu gan Dŷ’r Cwmnïau Mae Ty’r Cwmnïau yn gofrestrfa i wybodaeth am gwmnïau. Byddwn yn cynnal archwiliadau sylfaenol i wneud yn siwr fod dogfennau wedi eu cwblhau a’u llofnodi, ond nid oes gennym y pwer statudol na’r gallu i wirio cywirdeb yr wybodaeth y bydd cwmnïau yn ei hanfon atom. Byddwn yn derbyn ar goel bob gwybodaeth a anfonir atom gan gwmnïau ac yn ei rhoi ar y cofnod cyhoeddus. Ni ddylid cymryd bod y ffaith i’r wybodaeth gael ei rhoi ar y cofnod cyhoeddus yn golygu bod Ty’r Cwmnïau wedi ei gwirio neu ei dilysu mewn unrhyw fodd. Cysylltiadau â Gwefannau Allanol Ein polisi yw sicrhau caniatâd i gysylltu â gwefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig. Ni ddylid cymryd bod eu rhestru yn golygu cymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio bob tro ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd tudalennau cysylltiedig. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|