Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

 



Gwasanaeth Bilio Electronig Newydd

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi lansio gwasanaeth bilio newydd ar gyfer deiliaid cyfrif credyd.  Gall cwsmeriaid dderbyn datganiadau, anfonebau a nodiadau credyd yn awr yn electronig drwy ardal lawrlwytho ddiogel, yn hytrach na’u derbyn drwy’r post. Unwaith eich bod wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd, gellwch gael mynediad i’ch anfonebau a'ch datganiadau blaenorol. I gymryd mantais o’r gwasanaeth newydd hwn a chofrestru i’w ddefnyddio, yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw mynd i’r dudalen ganlynol (Saesneg yn unig):

https://ebilling.companieshouse.gov.uk/register.aspx

Ymhlith y cyfrifon sy’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn mae Companies House Direct, Online Filing ac XML Gateway.

I gwblhau’r broses o gofrestru, bydd angen i chi nodi rhywfaint o wybodaeth o’ch datganiad Tŷ’r Cwmnïau diweddaraf. Bydd y system yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddilysu eich cais. Er mwyn arbed trafferthion cofrestru, mae’n bwysig nodi y dylech gofrestru ar-lein AR ÔL derbyn eich datganiad papur diweddaraf a CHYN y diwrnod gwaith olaf o’r mis. Os ydych yn gwsmer newydd, rhaid i chi aros hyd nes eich bod yn derbyn eich datganiad cyntaf cyn cofrestru am y gwasanaeth hwn.

Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru am y gwasanaeth hwn, ac o hynny ymlaen, yr unig beth fydd angen i chi ei wneud yw nodi Rhif eich Cyfrif a’ch Cyfrinair i gael mynediad at eich datganiadau, anfonebau a nodiadau credyd. Bydd y dogfenni hyn i’w gweld ar fformat PDF a hefyd bydd gennych y dewis o lawrlwytho eich trafodion diweddaraf ar fformat CSV. Bob mis byddwch yn derbyn nodyn i’ch atgoffa ar e-bost, fydd yn cynnwys cyswllt URL i’r ardal lawrlwytho ddiogel, lle gellwch gael mynediad i’ch datganiad a’ch anfoneb diweddaraf.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru a bod eich manylion wedi’u dilysu, byddwch yn derbyn e-bost oddi wrth Tŷ’r Cwmnïau i gadarnhau’r cofrestru. Unwaith y byddwch wedi cofrestru am y gwasanaeth hwn, mae’n bwysig nodi na fyddwch bellach yn derbyn datganiadau papur oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau. Y gwasanaeth electronig newydd hefyd fydd y dull a ddefnyddir gan bob deiliad cyfrif newydd i anfon gwybodaeth.

Cliciwch yma i gofrestru yn awr (Saesneg yn unig)

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies