Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Dod o hyd i wybodaeth am gwmni

Pa wasanaeth bynnag y penderfynwch ei ddefnyddio i brynu gwybodaeth am gwmnïau, cofiwch fod modd bob amser gyrchu’n mynegai o enwau a chyfeiriadau cwmnïau yn rhad ac am ddim drwy glicio’r cyswllt yma


WebCHeck - Pick  your own
WebCHeck


Mae gwasanaeth WebCHeck yn cynnig mynegai o Enwau a Chyfeiriadau Cwmnïau y gellir ei chwilio yn rhad ac am ddim, gan eich galluogi i geisio gwybodaeth am dros 2.5 miliwn o gwmnïau. Gellir chwilio cwmni unigol naill ai drwy ddefnyddio'i enw neu ei rif cofrestru unigryw. Yn ychwanegol at y manylion cwmni rhad ac am ddim, gallwch hefyd ddefnyddio WebCHeck i brynu gwybodaeth hanes cwmnïau, gan gynnwys cyfrifon a ffurflenni blynyddol a detholiad o adroddiadau cwmni, i gyd ar-lein. Mae Monitor hefyd ar gael drwy wasanaeth WebCHeck. Bydd Monitor yn caniatáu ichi 'fonitro' cyflwyniad gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau gan unrhyw gwmni ddewiswch chi. Telir drwy gerdyn credyd neu ddebyd a chaiff pob cynnyrch ei drosglwyddo’n electronig i barth lawrlwytho diogel unigryw.

Yellow ArrowCliciwch yma i fanteisio ar drefn WebCHeck

Yellow ArrowCliciwch yma i ddysgu mwy am wasaneath WebCHeck

Yellow ArrowSylwch: Dim ond yn Saesneg mae gwasanaeth WebCHeck ar gael


Companies House Direct - At your fingertips
Companies House Direct

Companies House Direct yw ein prif offeryn chwilio i gyrchu a dadlwytho gwybodaeth am gwmnïau yn uniongyrchol o’ch PC eich hun. Mae dros 240 miliwn o ddelweddau o ddogfennau cwmni ar gael, gan gynnwys cyfrifon cwmni, yn ogystal ag amrywiaeth helaeth o wybodaeth cronfa ddata. Gwasanaeth tanysgrifio yw Companies House Direct, ac mae nawr ar gael yn rhad ac am ddim, ac wedi hynny fe gostyngir y ffi danysgrifio fisol o £5.00 fel rhan o’ch anfoneb fisol, a fyddai hefyd yn cynnwys unrhyw ddogfennau neu gynhyrchion y gallwch fod wedi eu prynu.

Cip CHD am ddim

Yellow ArrowRhestr Brisiau Companies House Direct

Yellow ArrowCliciwch yma i ddysgu mwy am wasanaeth Companies House Direct

Yellow ArrowSylwch: Dim ond yn Saesneg mae gwasanaeth Companies House Direct ar gael


Monitor - Get the bigger pictureMonitor
Gallwch gadw llygad ar unrhyw gwmni ar y gofrestr gyhoeddus, gan gynnwys eich cwmni eich hun, a 'monitro' pob rhyw wybodaeth a gafodd ei hanfon i Dŷ'r Cwmnïau drwy ddefnyddio gwasanaeth Monitor o fewn WebCHeck a Companies House Direct. Does dim rhaid ond cofrestru’ch cyfeiriad e-bost a manylion y cwmnïau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi. Cyn gynted ag y caiff y manylion eu cofrestru a’u bod yn fyw ar y gofrestr gyhoeddus, bydd y system yn cydnabod eich diddordeb ac yn gyrru hysbysiad drwy e-bost. Gallwch wedyn benderfynu a hoffech chi archebu’r wybodaeth. Chi biau’r dewis.

I gyrchu Monitor heddiw, ymwelwch â'n 'gwasanaeth talu wrth ddefnyddio' WebCHeck neu'n 'gwasanaeth tanysgrifio' Companies House Direct.

Yellow Arrow Sylwch: Dim ond yn Saesneg mae gwasanaeth Monitor ar gael


DVD Rom Directory - Where are they nowCyfarwyddiadur DVD-ROM


Mae’r Cyfarwyddiadur DVD ROM yn cynnwys manylion sylfaenol dros 2 miliwn o gwmnïau byw a gofrestrwyd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ynghyd â chwmnïau sydd wedi’u diddymu yn ystod y mis diwethaf. Fe allwch chi chwilio’r DVD hefyd, gan gyfuno hyd at 6 chwiliad. Y dewisiadau wrth chwilio yw enw’r cwmni, rhif y cwmni, llinellau cyfeiriad y swyddfa gofrestredig, côd post, dyddiad corffori neu amrediad o ddyddiadau, Codau SIC(03) neu ddisgrifiad, math o gwmni, statws y cwmni neu fath o gyfrifon.

Cynhyrchir cyfarwyddiadur bob mis a gallwch brynu un copi am £30 neu danysgrifiad blwyddyn am £300. Mae copïau ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau, neu gallwch brynu DVD ROM dros y ffôn oddi wrth yr Adran Gofal am Gwsmeriaid ar 02920 380820 a thalu gyda Cherdyn Credyd/Debyd neu drwy lythyr ynghyd â siec yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ a’i hanfon at Gofal am Gwsmeriaid, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ.

Sylwch nad yw’r Cyfarwyddiadur DVD ROM yn dangos manylion trosiant blynyddol, rhifau ffôn na manylion y cyfarwyddwyr. Ni ellir allfudo’r wybodaeth a ddangosir, ond rydym yn darparu fersiwn unigol o’r cyfarwyddiadur gyda ffeiliau y gellir eu hallfudo am £1,200. Y nifer fwyaf o ganlyniadau y gellir eu hallfudo ar unrhyw adeg yw 30,000.

Yellow Arrow Am wybodaeth bellach neu ymholiadau ynghylch y cynhyrchion DVD ROM, ffoniwch (0)29 20 380820 neu e-bostiwch eich enw, enw’ch cwmni, eich cyfeiriad post llawn a’ch rhif ffôn, gan nodi pa gynnyrch mae gennych ddiddordeb ynddo, at products@companieshouse.gov.uk


DVD ROM Change of Name  - Pin it downMynegai Newid Enw a Chwmnïau wedi eu Diddymu ar DVD-ROM


Mae’r Mynegai Newid Enw a Chwmnïau wedi eu Diddymu ar DVD ROM yn darparu gwybodaeth sylfaenol am gwmnïau sydd wedi cael eu diddymu neu wedi newid enw yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Fe allwch chi chwilio’r DVD hefyd ac adnabod cwmnïau yn ôl y meini prawf canlynol: enw’r cwmni, rhif y cwmni, cyfeiriad y swyddfa gofrestredig (os nad yw wedi’i ddiddymu), côd post (os nad yw wedi’i ddiddymu), dyddiad diddymu (neu amrediad o ddyddiadau), math o gwmni, statws y cwmni a newid enw.

Cynhyrchir y Mynegai Newid Enw a Chwmnïau wedi eu Diddymu ar DVD-ROM bob blwyddyn a’i gost yw £30. Mae copïau ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau, neu gallwch brynu DVD ROM dros y ffôn oddi wrth yr Adran Gofal am Gwsmeriaid ar 02920 380820 a thalu gyda Cherdyn Credyd/Debyd neu drwy lythyr ynghyd â siec yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ a’i hanfon at Gofal am Gwsmeriaid, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ.

Sylwch Ni ellir allfudo’r wybodaeth a ddangosir ar y ‘Mynegai Newid Enw a Chwmnïau wedi eu Diddymu ar DVD ROM’, ond rydym yn darparu fersiwn unigol o’r Mynegai gyda ffeiliau y gellir eu hallfudo am £1,200. Y nifer fwyaf o ganlyniadau y gellir eu hallfudo ar unrhyw adeg yw 30,000.

Yellow Arrow Am wybodaeth bellach neu ymholiadau ynghylch y cynhyrchion DVD ROM, ffoniwch (0)29 20 380820 neu e-bostiwch eich enw, enw’ch cwmni, eich cyfeiriad post llawn a’ch rhif ffôn, gan nodi pa gynnyrch mae gennych ddiddordeb ynddo, at products@companieshouse.gov.uk


Companies House Information CentresCanolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnau


Cynhaliwn Ganolfannau Gwybodaeth yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin. Mae’r Canolfannau Gwybodaeth yn darparu cysylltiad â’n cynhyrchion a’n gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â gadael ichi sicrhau ffurflenni, ffeilio’ch dogfennau, corffori cwmnïau newydd (yr un diwrnod os bydd angen!) a chael gwybodaeth a chanllawiau cyffredinol ynghylch ein gwasanaethau.

Yellow Arrow Cliciwch yma am fanylion sut i gyrraedd ein Canolfannau Gwybodaeth


Canolfan Cysylltu Tŷ'r Cwmnïau

Gall staff ein Canolfan Cysylltu ddelio â’r mwyafrif o ymholiadau cyffredinol ynghylch materion yn ymwneud â Thy’r Cwmnïau a’r gwasanaethau a roddwn. Fel arfer, byddant yn rhoi ichi ateb i’ch ymholiad yn syth, ond os na allant byddant yn eich trosglwyddo i rywun a all wneud.

Gall ein Canolfan Cysylltu hefyd gymryd archebion ar gyfer dogfennau cwmni, a anfonir wedyn drwy’r post, dros beiriant ffacs neu feCompanies House Contact Centre - Your calll e-bost. Gellir talu â siec os archebwch drwy’r post; neu cewch archebu dros y ffôn os ydych yn talu drwy gerdyn credyd neu fod gennych chi gyfrif. Gellir cyflenwi copïau o ddogfennau unigol dros y ffacs neu fel e-bost ar gyfer pobl sy’n talu drwy gerdyn credyd neu sydd â chyfrif.

Yellow Arrow Cliciwch yma i gyrchu rhestr brisiau'n Canolfan Cysyllt

Yellow ArrowGallwch ffonio'n Canolfan Cysylltu ar 0303 1234 500 neu anfon neges e-bost at enquiries@companies-house.gov.uk




Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies